Cymraeg

Ystyrir bod dodrefn gwerinol o dderw Cymreig ymhlith y gorau yn y byd ac mae diddordeb cynyddol ynddo ymhlith casglwyr yng Nghymru a thu hwnt.  Mae’r coffor bach, y tridarn a’r ddeuddarn ac wrth gwrs y dresel yn unigryw i Gymru.

Gwrthrychau gwerinol sy’n dangos balchder a safon y gwir grefftwr yn ei ddefnydd o dderw cynhenid ei wlad ac sydd, oherwydd hyn, wedi eu hanwylo a’u parchu o un genhedlaeth i’r llall yng nghartrefi ac aelwydydd Cymru.

Os ydych yn awyddus i berchenogi darn o hanes Cymru yn eich cartref ond heb y lle angenrheidiol i ddodrefnyn mawr gallwch gasglu darnau llai fel powlenni a chreiriau’r llaethdy, y llwy garu Gymreig, carthenni a chwiltiau Cymreig neu greiriau hardd o lechen wedi eu gweithio’n gywrain gan chwarelwyr o Ogledd Cymru.  Peidiwch ag anghofio crochenwaith Cymru, er enghraifft gwaith slip o Fwcle yng Ngogledd Ddwyrain Cymru a’r llestri pridd gyda phatrymau sbwng a throslun neu addurn o waith llaw o Abertawe a Llanelly (Llanelli).  Amgylchynir y rhan fwyaf o Gymru gan fôr a gwelir ei hanes morwrol mewn lluniau a dioramau (modelau tri dimensiwn) o hen longau hwylio Cymru.  Cofiwch hefyd bod sampleri Cymraeg eu hiaith yn brin ac yn adlewyrchu ein balchder yn ein hiaith a’n diwylliant.

Wrth gwrs rydym ni’n dau yn falch iawn o fod yn Gymry.  Rydym yn byw ac yn gweithio yng Nglan y Fferi ac yn codi ein tri phlentyn yn y Gymraeg ac maen nhw yn mynychu ysgol uniaith Gymraeg.  Un o Gymry-Llundain yw Betsan, bu’n byw yno gydol ei hoes nes iddi fy mhriodi i.  Mynychodd Ysgol Gymraeg Llundain am rai blynyddoedd ac roedd yn rhan o gymuned Cymru-Llundain.  Un o San Clêr ydw i ac mae gwreiddiau teulu Betsan yn hanu o Sir Gâr hefyd felly rwy’n hoffi meddwl fy mod wedi ei dwyn yn ôl adref.  Mae Betsan a minnau yn ystyried bod ein sgiliau yn yr iaith Gymraeg yn datblygu yn raddol.  Yn ffodus mae cael plant ifanc yn gymorth i wella’n sgiliau a gobeithiwn erbyn iddyn nhw adael yr ysgol y byddwn ni yn rhugl yn yr iaith!